Amdanom Ni

Menter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn y Chwaraeon Anabledd yng Nghymru a’r 22 awdurdod lleol ledled Cymru yw Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru. Nod y cynllun yw datblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden cymunedol safonol ar gyfer pobl anabl ledled Cymru.  wcss 2010 003  

Hybir a chyflwynir y rhaglen drwy gyfrwng rhwydwaith o Swyddogion Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru sydd wedi’u lleoli ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Amcanion Chwaraeon Anabledd Cymru yw:

  • creu clybiau newydd a rhoi cyngor a chefnogaeth broffesiynol er mwyn gwella’r clybiau presennol
  • cynyddu nifer y bobl anabl sy’n cymryd rhan mewn clybiau, grwpiau a sesiynau chwaraeon
  • gwella ansawdd a chynyddu nifer yr hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr mewn chwaraeon i’r anabl drwy addysgu hyfforddwyr a systemau eraill
  • creu cyfleoedd newydd a datblygu’r cyfleoedd sy’n bodoli eisoes i bobl anabl gystadlu mewn chwaraeon ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  • gweithio’n agos gyda Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol y Ffederasiwn gan sicrhau bod yr unigolion gyda’r potensial yn cael cyfle i ymarfer a, lle bo hynny’n briodol, i gystadlu ar y lefel uchaf.