Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Clwb Actionnaires Gwent

Gweithgareddau:

Dringo, Jiwdo, Aml-Chwaraeon, Gweithgareddau Awyr Agored, Nofio, Bowlio Deg, Trampolinio

Aelodaeth:

Amhariad Weledol

Cyfeiriad Clwb:
Cwmbran stadium / Llantarnam School

Jo: 07515188044 – Lucy: 07515188335


Clwb chwaraeon i blant a phobl ifanc ddall a rhannol ddall a gynhelir bob dydd Sadwrn yn Stadiwm Cwmbran neu Ysgol Llantarnam 13:00-3:30


Mae'r clwb wedi cael ei sefydlu gan Elusen Weithredu Genedlaethol ar gyfer Pobl Ddall ac yn cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ac Arian i Bawb.


Mae'n rhan o rwydwaith o 28 o glybiau Actionnaires ar draws y DU, a dyma glwb cyntaf yr elusen i gael ei lansio yng Nghymru.

Bydd clwb Gwent Actionnaires yn cyfarfod bob wythnos ac mae ar agor i bob plentyn dall a rhannol ddall, ynghyd â'u brodyr a chwiorydd a ffrindiau.

Seren rygbi Gareth Maule y Dreigiau Casnewydd Gwent (llun ar y chwith) yn lansio clwb ym mis Ionawr 2008.



Dywedodd rheolwr tîm y Dreigiau, Jim McCreedy: "Dylai bob plentyn allu mwynhau chwaraeon, beth bynnag eu gallu. Mae hon yn fenter wych, ac yn un y mae Dreigiau Casnewydd Gwent yn falch iawn o'i chefnogi."

Meddai Nicky Malson, Swyddog Datblygu Chwaraeon ar gyfer Pobl Ddall, "Mae Gwent Actionnaires yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i blant lleol gyda nam ar eu golwg.

"O jiwdo i bêl-droed, athletau i bêl-foli, bydd y clwb yn ymdrechu i ddatblygu sgiliau corfforol plant a'u ffitrwydd, ynghyd â'u hyder a'u sgiliau cymdeithasol. Mae Gwent Actionnaires wedi cael cefnogaeth anhygoel gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, Arian i Bawb a gwasanaethau VI Gwent ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny. Rwy'n edrych ymlaen, yn enwedig gan mai hwn yw'r clwb Actionnaires cyntaf i agor yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at edrych ar gyfleoedd mewn rhannau eraill o'r wlad. "

Ffoniwch cyn mynychu'r sesiynau i weld a yw'r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio yr wythnos honno.