Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Clwb Rygbi Croesyceiliog

Gweithgareddau:

Rygbi

Aelodaeth:

Byddar / Trwm Eich Clyw, Anabledd Dysgu, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), Amhariad Weledol

Cyfeiriad Clwb:
The Highway
Croesyceiliog
Cwmbran
NP44 2HJ

01633 483583

colin.wilmott@webster.uk.net


Clwb Rygbi Croesyceiliog

Amdanom Ni

Sefydlwyd CR Croesyceiliog yn 1881 a Chapten cyntaf y Clwb oedd G. Morgan a arweiniodd y garfan yn nhymor 1883/84. Am resymau amlwg, mae’r garfan yn cael ei hadnabod yn lleol fel y Ceiliogod a’r Ceiliog a ddangosir ar arfbais y clwb. Mae wedi chwarae mewn sawl lleoliad yn ystod ei gyfnod maith mewn bodolaeth ac, ar un adeg, mewn cae fferm yn eiddo i Jack Walker, cyn-chwaraewr, cadeirydd a llywydd yn y clwb. Ond diolch i Gyngor Bwrdeistref Torfaen, mae’r Ceiliogod wedi mwynhau defnyddio cyfleusterau rhagorol Heol Woodland ers canol y 60au.             


Ar ddechrau’r 1970au, roedd y clwb yn Garfan Undeb Iau lwyddiannus, yn rhan yn rheolaidd o Gwpan leol Ivor Jones a Rowndiau 7-Bob-Ochr Terfynol Rhanbarth Pontypŵl.  Hefyd, enillodd ornest Saith-Bob-Ochr Rhanbarthau Cymru.  Cafodd y rygbi rhydd a chwaraewyd gan y clwb ei gydnabod gan Rygbi’r Undeb Rhanbarthau Cymru ac enillodd pedwar o’r chwaraewyr gapiau rhyngwladol yn erbyn Gwlad Belg.  Aeth un o’r chwaraewyr hynny, Clive Burgess, ymlaen i chwarae i Lynebwy a sicrhau’r anrhydedd fwyaf i’r clwb pan gafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru.  Yn nes ymlaen, cafodd ei wneud yn Aelod Oes o CR Croesyceiliog.  


Yn ystod 1975, dan gadeiryddiaeth Mr Jack Walker, unodd y Clwb Rygbi gyda Chlwb Criced Croesyceiliog, gan sefydlu pencadlys yn y cae criced.  Yn 1976, gwnaeth y clwb gais am aelodaeth o Undeb Rygbi Cymru ac fe’i derbyniwyd.       


Mae gan y clwb dîm hŷn sydd yn Adran Dau y Dwyrain yn y Cynghreiriau Cenedlaethol, tîm datblygu, tîm ieuenctid a thimau iau ar gyfer y rhai Dan 8 oed a Dan 16 oed, sydd hefyd yn cadarnhau ein polisi o fuddsoddi mewn chwaraewyr ieuainc, er mwyn gwarchod dyfodol y clwb.

Mae record y clwb yn ystod y tymhorau diwethaf fel a ganlyn:

1978/79 – YN ROWND DERFYNOL CWPAN BEN FRANCIS
1989/90 - YN ROWND DERFYNOL CWPAN BEN FRANCIS
1991/92 – ENILLWYR CWPAN BEN FRANCIS
1993/94 – PENCAMPWYR 2IL ADRAN SIR FYNWY
1993/94 - ENILLWYR CWPAN BEN FRANCIS
1998/99 – PENCAMPWYR A5D Y GYNGHRAIR GENEDLAETHOL
2000/01 - PENCAMPWYR A4D Y GYNGHRAIR GENEDLAETHOL
2001/02 – A3D Y GYNGHRAIR GENEDLAETHOL (3ydd)
2002/03 - A3D Y GYNGHRAIR GENEDLAETHOL (3ydd)

Hyfforddiant

Mae gan Groesyceiliog Sgwad Ieuenctid llwyddiannus a chyfeillgar iawn gyda chwaraewyr rhwng 16 ac 19 oed wedi dod i fyny o’r rhengoedd iau.  Cynhelir yr hyfforddiant yn Heol Woodland, Croesyceiliog, bob dydd Mawrth ac Iau, gyda hyfforddiant arbenigol gan gyn-hanerwr Casnewydd a Llanelli, Dale Burn, gyda chymorth Andy a Wayne Thomas.

Mae gan CR Croesyceiliog dimau yn yr holl grwpiau oedran bron, o Dan 8 i Dan 16.  Hyfforddir y timau gan hyfforddwyr cymwys URC.  Cynhelir yr hyfforddiant ar nosweithiau amrywiol yn ystod yr wythnos a chwaraeir gemau ar fore Sul yn Heol Woodland.  Am wybodaeth bellach ewch i’n gwefan:   http://www.webster.uk.net/SportsAndLeisure/Rugby/CroesyceiliogRugbyClwb/CroesyceiliogRFC.aspx